The words you are searching are inside this book. To get more targeted content, please make full-text search by clicking here.

Prosbectws Ysgol Santes Tudful

Discover the best professional documents and content resources in AnyFlip Document Base.
Search
Published by Miss Ceri Davies, 2022-10-19 08:38:24

Prosbectws 2022-2023

Prosbectws Ysgol Santes Tudful

Prosbectws
Prospectus
2022-2023

Ysgol
Santes Tudful



Cynnwys

Gair o groeso gan y Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwr
Gwledigaeth ac Amcanion Ysgol Santes Tudful
Ein Hysgol
Manylion Cysylltu
Trefn Ddyddiol yr Ysgol
Tymhorau'r Flwyddyn Ysgol
Derbyniadau i'r Ysgol
Llwyddiannau'r Ysgol
Cwricwlwm ac Addysg
Addysg Grefyddol ac Addysg Rhyw
Cydraddoldeb Hiliol, Dathlu Amrywiaeth ac Hyrwyddo Cynhwysiant
Asesu ac Adrodd yn Ôl
Disgyblaeth a Gwobrwyo
Cwricwlwm Cymreig
Cyfoethogiad y Cwricwlwm
Ymweliadau Addysgiadol
Codi a Dileu Taliadau
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Iechyd, Lles a Chwaraeon
Llais y Disgybl
Cyfleoedd Cyfartal
Pontio a Throsglwyddo
Cyfranogiad Rhieni
Cysylltiadau gyda Rhieni a'r Gymuned
Gweithio gyda'r Gymuned
Cymdeithas Ffrindiau a Rhieni
Presenoldeb
Gwisg Ysgol
Diogelwch Plant, Iechyd a Diogelwch, Salwch a Damweiniau, Moddion
Cwynion
Trafnidiaeth

Croeso gan y Pennaeth

Croeso i chwi i Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful. Agorwyd Ysgol Santes
Tudful yn 1972 gyda dosbarth o 18 o blant. Bellach maeʼr ysgol wedi tyfu hyd

at dros bedwar cant a saith deg un o ddisgyblion yn 2021. Maeʼr
llywodraethwyr mewn cydweithrediad ag Awdurdod Addysg Merthyr Tydfil
wedi cydweithioʼn glos i sicrhau adeilad addas ag adnoddau pwrpasol er

mwyn diwalluʼr cynnydd yn niferoedd y disgyblion.
Mae yna gynnydd sylweddol yn nifer o rieni di-gymraeg syʼn danfon eu plant

iʼr ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd. Rydym yn cefnodi ein
cartrefi di-gymraeg ir eithaf drwy sicrhau dwyieithrwydd drwy bob

cyfathrebedd a help wrth law ar sut y gallent fod yn gefn i addysg eu plant,
heb yr iaith. Does dim problem na fedrwn orchfygu, wrth weithio gydaʼn
gilydd.

Erbyn hyn mae yna 20 o athrawon ac 18 o gynorthwywyr yn gweithio yn yr
ysgol ynghyd a 10 o staff ategol. Maeʼr tîm yn frwdfrydig ac yn gweithioʼn
galed i godi safonau a gwellaʼr ysgol yn barhaus. Ymfalchïwn yn safonau
cyrhaeddiad uchel yr ysgol. Mae disgwyliadau uchel gennym, drwy waith,
ymddygiad, parch ac agwedd. Mae ein disgyblion yn blant sydd yn cyfrannu

at ein cymuned, yn ddysgwyr uchelgeisiol, deallus ac yn egwyddorol.
Datblygwn y disgbybl cyflawn drwy waith mentrus a thrwy gynnig cyfleoedd

niferus allgyrsiol iddynt, boed yn glybiau ar ôl ysgol, tripiau addysgiadol,
tripiau preswyl ac wythnosau sgiliau bywyd. Y profiadau yma oll yn ategol iʼn

heisteddfodau, Eisteddfod yr Urdd, cystadleuthau Darllen dros Gymru,
twrnamentau chwaraeon niferus a prosiectau celf. Dathlwn pob talent.
Ein nôd yw creu awyrgylch ddiogel, hapus a chymreig – lle y gallent cynnal

“Fflam yr Iaith yn nhref y Ffwrnais”. Darllenwch ymlaen am ragor o
wybodaeth, neu cysylltwch i wneud apwyntiad am ymweliad er mwyn i chwi

brofi awyrgylch a bwrlwm yr ysgol brysur hon.
Mr Gwyndaf Jones

Ein Gweledigaeth

Mae ein hysgol yn unedig. Unedig gan angerdd. Unedig yn ôl gwerthoedd. Rydyn ni'n teulu.
Mae teulu ein hysgol yn gweithio tuag at yr un amcan; i greu amgylchedd hapus, cefnogol a

ffyniannus. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o ran safonau, ac ymdrech ond maeʼr un
disgwyliad o dosturi, ystyriaeth, caredigrwydd, gonestrwydd a pharch. Rydym yn dathlu

ein treftadaeth, ein diwylliant a chenedligrwydd. Byddwn bob amser yn ganolbwynt balch a
gweithgar o fewn cymuned Cymreig yr ardal. Rydym am rymuso ein plant â hunan-gred,
dyhead a phositifrwydd i gyflawni a llwyddo mewn bywyd. Mae gwytnwch, dyfalbarhad
a phenderfyniad yn rhinweddau rydyn ni'n eu hyrwyddo yn yr ysgol ac yn y cartref. Byddwn yn
darparu offer a chefnogaeth i'n plant ddod yn annibynnol ac yn hyderus gyda medrau eu
hunain. Yn hyderus i roi cynnig ar bethau a pheidio â chael eu trechu gan gamgymeriadau ond i
addasu a dysgu oddi wrthyn nhw. Mae bywyd ysgol yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb ac
mae ein dull yn meddwl agored ac yn deg. Mae pob plentyn yn cael mynediad i brofiadau

cyfoethog mewn ffyrdd hwyliog ac ysbrydoledig gyda chyfleoedd ar gyfer arloesi,
creadigrwydd a meddwl yn feirniadol. Rydym am i'n plant geisio cyfleoedd, bod yn
uchelgeisiol, galluog ac yn barod i ddysgu a chyfrannu fel dinasyddion yr 21ain ganrif.

(Mae'r testun trwm yn dynodi'r geiriau a chasglwyd oddi wrth randdeiliadau'r Ysgol)
Amcanion yr ysgol:

Darparu amgylchedd diogel, cefnogol ac hapus gydag awyrgylch cartrefol.
Cynnig cyfle cyfartal i bawb.

Cefnogi pob aelod y gymuned ysgol i gyrraedd ei lawn botensial.
Magu ethos o feddylfryd twf ac hyrwyddo lles personol.

Codi safonau trwy ddarparu cwricwlwm eang llawn dysgu cyfoethog.
Gosod sylfaen cadarn ar gyfer dysgu gydol oes.
Meithrin dinasyddion gweithredol a beirniadol.

Gweledigaeth ein Cwricwlwm Ysbrydoli
Dathlu
‘Fflam yr Iaith yn Nhref y Ffwrnaisʼ Dysgu

Fe gafodd ein Gweledigaeth ysgol ei greu yn wreiddiol ym Mis Medi 2016, pan dros gyfnod o 8
mis y rhannywd hi gydaʼr llywodraethwyr, rhieni, staff a disgyblion yr ysgol - fe gafodd pawb
ymroi tuag at ein gwelediageth ac feʼu ffurfiwd yn gadarn erbyn Mis Mehefin 2016. Yn sgil
Cwricwlwm i Gymru 2022, aethom ati i ail edrych ar ein gweledigaeth ysgol a gan ein bod wedi
gwreiddio ein gweledgaeth yn y gwerthoedd mwyaf pwysig i ni - doedd fawr i newid o ran
Gweledigaeth ein cwricwlwm. Mireiniwyd hi ar gyfer ein prosbectws newydd yn 2021, ac feʼu
rhannwyd ar ein cyfryngau cymdeithasol a gyda holl rhanddeiliad yr ysgol.
Yma yn Ysgol Santes Tudful ymfalchiwn yn ein gweledigaeth o gynnig profiadau a chyfleoedd iʼn
disgyblion, fel sail iʼw dysgu. Rydym yn annog ein plant i geisio ar gyfleoedd, i fod yn
uchelgeisiol, yn fentrus ac yn barod i ddysgu a chyfrannu fel dinasyddion yr 21ain ganrif.

Yn rhan annatod oʼn rolau wrth ymchwilio i Gwricwlwm i Gymru, a thrafod nodweddion allweddol
Cwricwlwm Ysgol Santes Tudful ac anghenion pob dysgwr yn ein hysgol - ydyʼr weledigaeth aʼr
pedwar diben. Maeʼr staff wedi cydweithio gyda rhydweithi o athrawon eraill, gan gynnwys staff
ein clwstwr i gefnogi ei gilydd er mwyn cynllunioʼr cwricwlwm. Rydym hefyd wedi cydweithio
gydaʼr consortiwm, yr awdurdod leol, asiantaethau megis, Creative Learning er mwyn sicrhau
cynllunio priodol ar hyd y continwwm.

Profiadau sbardunol sydd yn arwain addysgeg ein Meysydd Dysgu, syʼn cydblethu sgiliau
allweddol o fewn cyd-destun bywyd go iawn. Mae cwricwlwm Ysgol Santes Tudful yn un
drawsgwricwlaidd, sydd wedi ei chynllunio i fod yn eang a chytbwys drwy sicrhau statws uchel i
bob Maes Dysgu, ac syʼn cwmpasu cysyniadau a nodir yn y datganaidau oʼr hyn syʼn bwysig yng
ʻNghod yr Hyn syʼn bwysigʼ. Maeʼr cwricwlwm yn tyfuʼn briodol gydaʼr disgybl drwy daith ei
addysg cynradd, ac yn cynnig cyfleoedd niferus dyddiol i wireddu nodweddion y pedwar diben, i
gyfathrebuʼn effeithiol, i ddatrys problemau, defnyddio technolegau digidol a gwneud cynnydd
effeithiol. Y disgybl sydd wrth wraidd ein cwricwlwm ac mae dylanwad y disgybl yn chwarae rôl
annatod ynddi. Mae pob dysgwr yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar ddechrau a diwedd
themau dysgu, wrth drafod profiadau, wrth fonitro a chraffu ar lyfrau ac wrth ymgymryd â
theithiau dysgu drwyʼr ysgol. Mae pob disgybl yn dathlu eu hunaniaeth, ac â mynediad i
brofiadau cyfoethog, hwyliog ac ysbrydoledig gyda chyfleoedd i fethrin a dathlu arloeseg,
creadigrwydd ac i feddwl yn feirniadol. Rydym yn ysgol sydd yn ymfalchio yn ein gwerthoedd
Iechyd a Lles, sydd yn ganolbwynt i fethodoleg ein addysgu. Gweithredwn cwricwlwm sydd yn
seiliedig ar athroniaeth meddylfryd twf.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu ar sail tystiolaeth i alluogi pob dysgwr
unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol. Mi fydd ein cwricwlwm yn cael ei adolygu yn
barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein dysgwyr, yn gyfoes ac yn sefyll law yn
llaw â gwerthoedd ein gweledigaeth.

Ni ydy Fflam yr Iaith yn nhref y ffwrnais - yn cynnuʼr fflam; er mwyn goleuoʼr dyfodol.

Ein Hysgol

Agorwyd Ysgol Santes Tudful yn wreiddiol ym mis Medi, 1972 fel rhan o Ysgol Gellifaelog. Roedd
deunaw o blant yn mynychuʼr ysgol gydag un athrawes a chynorthwyydd yn eu haddysgu. Cafodd
bathodyn cyntaf y gwisg ysgol ei dylunio gan tad-cu un oʼn disgyblion presennol.

Symudodd y Babanod iʼw safle newydd ar
Queenʼs Road yn Nhwynyrodyn, Merthyr Tudful
ym mis Medi 1979 gydaʼr Adran Iau yn eu dilyn
nhw yn Ionawr 1980. Dyma oedd safle yr ysgol
am y 29 mlynedd nesaf aʼr ysgol yn tyfu i ddau
ffrwd i bob blwyddyn.

Yn 2009, symudwyd yr ysgol gyfan iʼr
safle newydd ar Heol Pantyffin yn
Nhwynyrodyn. Maeʼr adeilad yn un eco-
gyfeillgar gyda phaneli solar, system
ailgylchu dŵr glaw a system gwresogi
syʼn defnyddio gwres y ddaear. Yn
bresennol mae 471 o ddisgyblion ar y
gofrestr yn rhan o 16 dosbarth. Maeʼr
ysgol yn parhau i dyfu gyda chwblhad
adeilad dwy ystafell newydd yn 2020.

Manylion Cysylltu

ENW A CHYFEIRIAD YR YSGOL
Ysgol Santes Tudful
Heol Pantyffin
Mountain Hare
Twynyrodyn
Merthyr Tudful
CF47 0HU

Rhif Ffôn/Phone number:- 01685 351815
E-bost:- [email protected]

GWEFAN YR YSGOL
www.santestudful.merthyr.sch.uk

TRYDAR
@santestudful

TUDALEN GWEPLYFR
Ysgol Santes Tudful - Parents and Friends (Grŵp Preifat)

PENNAETH
Mr Gwyndaf Jones
[email protected]

CADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR
Mr T. Lancaster

MATH O YSGOL
Ysgol Gynradd Gymraeg Benodedig 3-11 oed.

NIFER AR Y GOFRESTR 453

Trefn Ddyddiol

Tymhorau'r Flwyddyn Ysgol

Derbyniadau

Mae mynediad plant i ysgolion yn cael ei reoli a'i weinyddu gan yr 'Awdurdod Derbyn'. Awdurdod
derbyn Ysgol Santes Tudful yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Am gais i ysgol benodol rhaid gwneud yn swyddogol trwy'r porth ar-lein i'r awdurdod lleol. Mae'r
awdurdod lleol yn cynnig lleoedd mynediad yn ystod y tymor cyn bod plentyn i fod i ddechrau'r
ysgol. Ar ôl derbyn y cais, bydd yr awdurdod yn hysbysu rhieni / gofalwyr a yw'n bosibl i'ch plentyn
fynychu'r ysgol a ffefrir neu beidio. Dylai rhieni / gofalwyr hysbysu'r awdurdod lleol o flaen llaw os
oes ganddynt blentyn, a fydd yn cyrraedd yr oedran o 4 blynedd erbyn 31ain Awst, 2022. Os oes
angen i drafod eich cais gyda'r ysgol, gallwch siarad â'r Pennaeth, ac os yn briodol, gellir trefnu
ymweliad ysgol.
Bydd disgyblion sy'n mynychu ysgolion cynradd Cymraeg yn gallu parhau â'u haddysg mewn
ysgolion uwchradd cyfrwng Cymru y tu allan i Fwrdeistref y Sir. Mae gan yr awdurdod lleol
bartneriaeth lwyddiannus gydag Ysgol Gyfun Rhydywaun yn Rhondda Cynon Taf.
Derbyniadau Cyn-feithrin (rising 3s)
Mae plant sy'n troi'n 3 yn ystod y flwyddyn academaidd (rising 3s) yn gallu gwneud cais am le cyn-
feithrin i ddechrau'r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd h.y. yn Nhymor y Gwanwyn a'r Haf bob
blwyddyn. Darperir lleoedd cyn-feithrin yn amodol ar argaeledd ac ni ellir eu gwarantu mewn
unrhyw ysgol. Unwaith yr ystyrir bod y feithrin yn llawn, ni chaniateir derbyn disgyblion cyn-feithrin
bellach.
Mae plant yn cael eu derbyn i'r Feithrin llawn amser yn ystod y flwyddyn yn dilyn eu pen-blwydd yn
dair oed. Gwahoddir rhieni i'r ysgol cyn i'w plentyn / plant ddechrau'r ysgol a byddant yn cwrdd â
staff y Feithrin. Bydd ganddynt amser i weld cyfleusterau'r Feithrinfa a chwrdd â'r athrawon. Darperir
pecyn cychwynnol hefyd sy'n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Mae derbyniadau Ar-lein (http://merthyr.gov.uk/ApplyForASchoolPlace) ar agor i bob rhiant
perthnasol / gofalwyr o Fedi 2021. Tîm Derbyniadau Ysgol 01685
725000. Maeʼn bosib gofyn am gopi caled, a bydd angen eu dychwelyd i,

Tîm Derbyn Ysgol,
Adran Ysgolion, Uned 5,
Parc Busnes Triongl, Pentrebach,
Merthyr Tudful, CF48 4TQ
Disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ond heb ddatganiadau
Mae trefniadau derbyn ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol ond heb ddatganiadau yn
cael eu trin ar yr un sail ag ymgeiswyr eraill. Mae ceisiadau mewn perthynas â phlant o'r fath yn cael
eu hystyried ar sail meini prawf derbyn yr awdurdod lleol.
Disgyblion â datganiadau o anghenion dysgu ychwanegol
Os oes gan blentyn ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol a gynhelir gan yr awdurdod lleol,
bydd yr awdurdod lleol yn gyfrifol am gynghori ar ddarpariaeth addysgol arbennig i'w gwneud gan
yr ysgol, ac am ystyried addasrwydd yr ysgol wrth naill ai cwblhau'r datganiad neu ar ôl adolygiad
flynyddol.
Mae gan bob ysgol adnoddau priodol i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol trwy eu cyllidebau eu
hunain. Mae gan rai ysgolion adnoddau pellach gydag unedau pwrpasol sy'n mynd i'r afael â rhai
anghenion dysgu ychwanegol.



Ysgolion Iach
Maeʼr Ysgol eisoes wedi hyrwyddo pwysigrwydd cadwʼn iach ac wedi mynd ati'n frwd i

hybu, diogelu ac ymgorffori iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol drwy
gymryd camau gweithredu cadarnhaol. Rydym wedi mabwysiadu polisïau effeithiol,
cynllunioʼn strategol er mwyn sicrhau llwyddiant ac wedi datblygu staff. Ein hymgyrch
mwyaf diweddar yw darparu amgylchedd ffisegol pwrpasol sydd yn datblygu addysg ein

disgyblion yn yr awyr agored.

Er mwyn ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol rhaid bod yr ysgol wedi dilyn y cynllun
Ysgolion-Iach ac wedi datblyguʼr saith pwnc iechyd gwahanol:-
Bwyd a Ffitrwydd
Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol
Datblygiad Personol a Pherthnasoedd
Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau
Amgylchedd
Diogelwch
Hylendid

Ymfalchïwn yn y ffaith bod Ysgol Santes Tudful yn ysgol iach sydd wedi rhagori yn y 7
maes iechyd, wedi ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol ac yna ei ail-ddilysu yn rheolaidd.

Llwyddiannau'r Ysgol

Eco-Sgolion

Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy'n ymgysylltu â 19.5miliwn o blant ar
draws 68 o wledydd, sy'n golygu mai hon yw'r rhaglen addysgol fwyaf ar y
blaned. Datblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994
ac feʼi cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymruʼn Daclus.

Mae wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau
amgylcheddol cadarnhaol iʼw hysgol aʼr gymuned ehangach, traʼn datblygu
eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Mae Ysgol Santes Tudful wedi cydweithio gydag Eco-Sgolion am flynyddoedd maith
ac wedi llwyddo ennill a chadw y wobr Platinwm. Fel ysgol, rydym yn eco-gyfeillgar ac
datblygu ein disgyblion i fod yn eco gyfeillgar ac yn aelodau cydwybodol a chyfrifol y
gymuned.

Siarter Iaith

Rydym yn ysgol sydd yn ymfalchio yn ein mamiaith aʼn cymreictod. Cynnigir
gyfleoedd amryw yn wythnosol iʼn plant fwynhau cymreictod, ddeall eu
hetifeddiaeth a theimlo cyfoeth perthyn i deulu Cymraeg. Erbyn hyn mae
gwaith Siarter Iaith y llywodraeth yn rahn annatod o fywyd yr ysgol a
chymeriadau Sbarc a Seren y enwog bellach ar lawr yr ysgol.

Ennillon ni wobr Siarter Efydd y Siarter Iaith nol yn 2019 drwy geisio ehangu
brwdfrydedd ein dysgwyr am gymreictod a siarad Cymraeg y tu hwnt ir ystafell
ddosbarth gan gyflwyno mwy o raglennu teledu S4C iʼn dysgwyr a thryw rannu, profi a
mwynhau llawer mwy o gerddoraeth Cymraeg cyfoes, Bellach mae cerdooriaeth
cymraeg Cymru FM yn chwarae ar ein hardaloedd allanol drwy amser chwarae a
chinio wrth ir nblant chwarae.

Aethom ati i ennill y wobr Arian yn 2020, gyda ʻChriw Cymraegʼ yr ysgol yn
arwain y ffordd, drwy rannu eu harbennigedd am yr iaith gymraeg gydag
ysgolion eraill, busnesau lleol a Choleg Merthyr. Rydym yn falch iawn oʼn
gwaith yn y gymuned ar adal leol.

Bellach y Wobr Aur sydd yn y fantol! Ac maeʼn dysgwyr aʼr ʻCriw Cymraegʼ
yn brysur ar waith wrth greu podlead Gymraeg wythnosol, a chylchlythyr
wythnosol ir ysgol aʼr gymuned. Ein harfbais ysgol ydy “fflam yr Iaith yn nhref y
ffwrnais” - ac mae ein dysgwyr aʼn staff yn gweithioʼn galed tuag at gynnal hyn yn
ddyddiol.

Cwricwlwm ac Addysg

Cwricwlwm Newydd i Gymru

Mae hiʼn amser cyffrous o fewn y byd addysg. Fel pob ysgol, mae Ysgol Santes Tudful medru cynllunio
Cwricwlwm eu hunain. Hynny yw, beth ddylaiʼr plant dysgu, sut ddylen nhw ddysgu aʼr rhesymau pam
ddylen nhw ddysgu. O fis Medi 2022, fe fydd plant a phobl ifanc yn dysgu trwyʼr Cwricwlwm
Newydd.

Sail ag ysgogiad Y Cwricwlwm Newydd i Gymru oedd adroddiad Athro Donaldson, ʻDyfodol
Llwyddiannusʼ. Dogfen sydd yn gofyn am Gwricwlwm gydaʼr un weledigaeth i blant a phobl ifanc
Cymru. Gweledigaeth sydd aʼr un man cychwyn aʼr dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng
Nghymru i wiredduʼr Pedwar Diben.

Y Pedwar Diben:-

• ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

• cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd
a’u gwaith

• dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd

• unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel
aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Man cychwyn pob dim ydyʼr Pedwar Diben gyda phob disgybl yn ganolbwynt iʼr Cwricwlwm. Ochr yn
ochr aʼr Cwricwlwm fe fydd 'Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd', y 'Fframwaith Cymhwysedd Digidol' a
'Fframwaith y Cyfnod Sylfaen' dal yn cael eu gweithredu.

Maeʼr fframweithiau yn gwau i mewn ac yn rhedeg ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad. Mae 6 Maes
Dysgu a Phrofiad:-

Celfyddydau Mynegiannol

Iechyd a Llesiant

Dyniaethau

Ieithoedd a Llythrennedd

Mathemateg a Rhifedd

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

O fewn pob un Maes Dysgu a Phrofiad mae datganiadau oʼr ʻHyn syʼn Bwysigʼ. Mae rhain yn gosod
ffocws ar gyfer continwwm dysgu pob dysgwr. Yn rhan oʼr ʻHyn Syʼn Bwysigʼ mae disgrifiadau dysgu.
Mae pob disgrifiad dysgu wediʼi gynllunio i gefnogi dyfnder a soffistigeidrwydd cynyddol yn dysgu
dros gyfnod o amser.

Gall cyflymder cynnydd plentyn amrywio ar hyd ei yrfa dysgu ond maeʼr Cwricwlwm Newydd wedi ei
trefnu yn fras i gamau cynnydd- Camau 1,2,3,4 a 5. Disgwylir plentyn i gyflawni Cam 1 yn 5 mlwydd
oed, Cam 2 erbyn 8 mlwydd oedd a cham 3 erbyn 11.



Celfyddydau Mynegiannol

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol (Maes) yn cwmpasu pum disgyblaeth,
sef celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm aʼr cyfryngau digidol. Er bod gan bob un oʼr
disgyblaethau hyn gorff o wybodaeth a corff o sgiliau syʼn perthyn yn benodol iʼr ddisgyblaeth
honno, cydnabyddir eu bod, gydaʼi gilydd, yn rhannuʼr broses greadigol.

Gall natur ddeinamig y celfyddydau mynegiannol ysgogi ac ennyn diddordeb dysgwyr aʼu cymell i
ddatblygu iʼr eithaf eu sgiliau creadigol ac artistig ynghyd âʼu sgiliau perfformio

Iechyd a Lles

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall
iechyd a lles. Maeʼn ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd.
Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a lles emosiynol a
chymdeithasol. Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol elfennau
iechyd a lles yn gysylltiedig âʼi gilydd. Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles yn bwysig i
alluogi dysgu llwyddiannus.

Dyniaethau

Maeʼr Maes hwn yn cwmpasu daearyddiaeth; hanes; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau
busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Maeʼr disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau
a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ond hefyd mae ganddyn nhw eu corff penodol eu hunain o
wybodaeth a sgiliau. Maeʼr Maes hwn yn ysgogi dysgwyr i ymwneud âʼr materion pwysicaf syʼn
wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaladwyedd a newid cymdeithasol, ac yn gymorth i ddatblyguʼr
sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifioʼr gorffennol aʼr presennol.

Ieithoedd Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Maes) yn ymwneud ag
agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl. Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a
galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn
ogystal â llenyddiaeth.

Mathemateg a Rhifedd

Mae cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd (Maes) yn cynnwys datblygu pum
hyfedredd cysylltiedig a rhyngddibynnol. Dydyn nhw ddim yn nhrefn pwysigrwydd, ac mae ystyried yr
hyfedreddau hyn yn hollbwysig wrth i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm er mwyn sicrhau cynnydd
dysgwyr.

Dealltwriaeth gysyniadol, Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau, Cymhwysedd strategol, Rhesymu
rhesymegol a Rhuglder.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Maeʼr Maes hwn yn tynnu ar ddisgyblaethau bioleg, cemeg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, dylunio a

thechnoleg, a ffiseg er mwyn dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr oʼr byd.

Addysg Grefyddol ac Addoli

Addysgir Addysg Grefyddol, gan gynnwys dadleuon moesol, ar bob lefel i holl
ddisgyblion yr ysgol fel rhan oʼr cwricwlwm. Nid ywʼr Ysgol â chysylltiad ag unrhyw
enwad crefyddol yn arbennig, ond bydd Addysg Grefyddol yn Gristnogol yn bennaf. Yn
ogystal, astudir arferion a thraddodiadau prif grefyddau eraill y byd er mwyn magu
goddefgarwch crefyddol yn ein disgyblion. Cynhelir gwasanaethau byr dyddiol yn yr
Ysgol – ysgol gyfan, adran, neu wasanaethau dosbarth (gwasanaethau Cristnogol neu
ʻfoesolʼ yn bennaf). Ar adegau, gwahoddir weinidogion lleol i annerch y plant mewn
gwasanaethau ysgol gyfan. Mae gan riant hawl i dynnu plentyn o wersi Addysg
Grefyddol a/neu addoli ar y cyd yn yr Ysgol am resymau crefyddol. Dylai rhieni sydd am
wneud hyn gysylltu â Phennaeth yr Ysgol i drafod trefniadau neillog ar gyfer eu plentyn ar
gyfer y cyfnodau crefyddol hyn.

Yn ystod y flwyddyn byddwn yn cynnal gwasanaethau teuluol ac mae croeso mawr iʼr
rheini/gwarcheidwaid ddod i ymuno âʼr disgyblion.

Addysg Rhyw

Maeʼr Ysgol yn dilyn Cynllun Datblygiad Personol a Pherthnasoedd, Ysgolion Iach Cwm
Taf. Maeʼr cynllun yn darparu cyfres o gynlluniau gwersi Datblygiad Personol a
Pherthnasoedd sydd wedi cael ei datblygu i gynorthwyo athrawon i gyflwyno addysg
perthnasoedd iach o ansawdd uchel mewn ysgolion cynradd. Bydd y wybodaeth aʼr
sgiliau y bydd disgyblion ein disgyblion yn cael oʼr gyfres hon o wersi yn datblygu eu
cadernid, eu hyder aʼu hunan-barch iʼw grymuso i ddatblygu a chynnal perthnasoedd
iach wrth iddynt symud trwy blentyndod i mewn iʼr glasoed. Mae addysg Datblygiad
Personol a Pherthnasoedd yn derm a ddefnyddir i ddisgrifioʼr ystod o brofiadau dysgu a
chymorth y mae ysgolion yn eu darparu er mwyn i ddisgyblion ddatblygu perthnasoedd
personol diogel a pharchus. Mae hyn yn cynnwys cymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad
mewn perthnasoedd personol a sut i adnabod ymddygiad amhriodol.

Erbyn diwedd blwyddyn 2 dylai’r disgyblion allu;

Adnabod pa rinweddau syʼn gwneud ffrind da, gwybod sut i gadwʼn lân a gofalu am eu
cyrff, mynegi a chyfleu teimladau gwahanol, defnyddioʼr enwau anatomaidd cywir ar
gyfer rhannau oʼr corff er mwyn dweud y gwahaniaeth rhwng gwrywaidd a benywaidd a
dweud y gwahaniaeth rhwng cyffwrdd priodol ac amhriodol.

Erbyn diwedd blwyddyn 3 a 4 dylai’r disgyblion allu:

Deall pwysigrwydd cadw eu hunain yn ddiogel a gwybod y gwahaniaeth rhwng
cyffwrdd priodol ac amhriodol, deall beth iʼw wneud neu at bwy i fynd pan fyddant yn
teimloʼn anniogel, deall y cysyniad o fod yn ddiogel ar-lein, cymryd mwy o gyfrifoldeb
dros gadwʼr meddwl aʼr corff yn ddiogel ac yn iach, gwerthfawrogi teuluoedd a ffrindiau
fel ffynhonnell cymorth ar y ddwy ochr, datblygu parch at eu hunain ac eraill, deall sut y
gall credoau diwylliannol a chrefyddol effeithio ar y ffordd y mae pobl yn meddwl,
parchu gwahaniaethau a chydnabod pwysigrwydd cyfle cyfartal ac adnabod y mathau
gwahanol o fwlio.

Erbyn diwedd blwyddyn 5 a / neu flwyddyn 6 dylai disgyblion:

Wybod enwau, safleoedd, swyddogaethau a meintiau perthynol y prif organau dynol,
deall y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sydd yn digwydd yn ystod
oed aeddfedrwydd, deall sut mae babanod yn cael eu cenhedlu, gwybod sut mae babiʼn
datblygu yn ystod beichiogrwydd a sut maeʼn cael ei eni, deall ystod eu teimladau aʼu
hemosiynau nhw a rhai pobl eraill a gwybod beth iʼw wneud neu at bwy i droi pan nad
ydynt yn teimloʼn ddiogel.



Asesu ac Adrodd yn Ôl

Yn ogystal ag arsylwi, asesu a chofnodi parhaol yr athrawon dosbarth, gweinyddir ystod o
brofion safonol ar draws yr ysgol drwy gydol y flwyddyn. Pwrpas gweinyddu y profion hyn
yw helpuʼr athrawon i sicrhau cynnydd, neu adnabod anawsterau disgyblion unigol yn eu
dosbarthiadau yn ogystal â sicrhau parhad o safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol.

Cynhelir nosweithiau ʻagoredʼ yn yr Ysgol er mwyn rhoiʼr cyfle iʼr athrawon adrodd-yn-ôl yn
llafar i rieni ynghylch cynnydd eu plentyn / plant, yn ystod Tymor yr Hydref er mwyn nodi sut
y maeʼr plentyn wedi setlo yn ei ddosbarth newydd, ac yn ystod mis Mawrth/Ebrill tuag at
ddiwedd Tymor y Gwanwyn. Bydd pob rhiant ar draws yr Ysgol yn derbyn adroddiad
ysgrifenedig ar gynnydd a datblygiad eu plentyn tuag at ddiwedd y flwyddyn ysgol (mis
Gorffennaf). Bydd rhieni y plant Derbyn a Meithrin yn derbyn adroddiad ysgrifenedig byr yn
ystod Tymor yr Hydref yn dilyn yr ʻAsesu Dechreuol

Asesu ar Gyfer Dysgu

Anogir plant i werthuso eu dealltwriaeth aʼu gwaith yn annibynnol mor aml â phosib. Fel
maeʼr plant yn symud trwyʼr ysgol maent yn cymryd fwy o rôl yn eu hasesu trwy hunan asesu
ac asesu eu cyfoedion. Maeʼr amrywiaeth o ddulliau a darparir yn galluogiʼr plant i werthuso
sut oedden nhw wedi dysgu, beth weithiodd orau a deall y strategaethau a fysaiʼn
ddefnyddiol am dasgauʼr dyfodol. Maeʼr broses hefyd yn helpu eu meddylfryd gan ddangos
iddynt fod camsyniadau a mireinio yn broses naturiol o ddysgu.

Gwobrwyo a Disgyblaeth

Sut mae disgyblion yn Ysgol Santes Tudful yn gwybod sut i ymddwyn?
Mae'r holl ddisgyblion yn ymwybodol o 'Ffordd Santes Tudful - cod ymddygiad clir sy'n gosod
disgwyliadau ymddygiad ar gyfer pob plentyn. Mae ein disgyblion yn deall eu bod yn gyfrifol
am eu hymddygiad a sut i ymddwyn yn barchus yn ffordd Santes Tudful. Mae plant yn deall
sut mae peidio ag ymddwyn yn barchus yn effeithio ar deimladau pobl eraill ac yn mynd yn
groes i ethos yr ysgol.
Beth mae 'Normau Santes Tudful' yn ei olygu?
Normau Santes Tudful yw'r rheolau dyddiol y mae'n rhaid eu dilyn.
Beth fydd yn digwydd os na fydd fy mhlentyn yn dilyn Ffordd Santes Tudful?
Wrth ymateb i ymddygiad annerbyniol nad yw'n dilyn 'Ffordd Santes Tudful', mae'r holl staff
yn ymateb gyda'r 5 Cam Ddisgyblaeth y ʻGadwyn Disgyblaethʼ.

1.Rhybudd am ymddygiad annerbyniol.
2.Rhybudd penodol - ail rybudd ar ffurf sgwrs.
3.Cosb gan aelod o staff a chofnod o'r ymddygiad ar Class Charts.
4.Cosb gan Bennaeth Ysgol neu Bennaeth Adran ynghyd â

chofnod ar Class Charts.
5.Galwad ffôn adref i rieni neu warcheidwaid.
Pwy fydd yn defnyddio Class Charts?
Bydd blynyddoedd 3-6 yn defnyddio Class Charts. Bydd y Cyfnod Sylfaen hefyd yn dilyn
Ffordd Santes Tudful ac yn defnyddio'r Gadwyn Disgyblaeth ond ni fydd staff yn recordio
pwyntiau iddyn nhw ar Class Charts. Mae Ysgol Rhydywaun hefyd yn defnyddio Class Charts
felly byddwch chi'n gyfarwydd iawn â'r system cyn iddyn nhw fynd i Flwyddyn 7.
Beth yw Class Charts?
Mae Class Charts yn blatfform digidol sy'n galluogi staff i gofnodi a gwobrwyo cyflawniadau
ac ymddygiadau da fel bod yn barchus, ceisio eu gorau, siarad Cymraeg a thrin eraill â
charedigrwydd.
Mae Class Charts hefyd yn lle i nodi ymddygiadau sydd ddim yn cyd-fynd â 'Ffordd Santes
Tudful'. Trwy blatfform ar-lein, hysbysir rhieni o ymddygiadau cadarnhaol a negyddol eu
plentyn. Nodir gwobr fel pwynt gwyrdd ar eu proffil a chofnodir ymddygiadau negyddol
mewn coch. Mae pob plentyn yn cychwyn wythnos ysgol newydd gyda llechen lân ond
cedwir cofnod hanesyddol o'r holl ymddygiadau.
Gwobrwyo
Yn ogystal â chanmoliaeth lafar plentyn, defnyddir Class Charts fel system wobrwyo. Mae'r
system yn golygu eich bod chi fel rhieni yn cael gwybod am unrhyw lwyddiant ac yn gallu
dathlu hyn gartref.
Mae yna hefyd systemau eraill o wobrwyo a dathlu yn yr ysgol sy'n digwydd yn yr ystafell
ddosbarth ac fel ysgol gyfan e.e. tystysgrifau, tocynnau clod a phwyntiau llys.



Cwricwlwm Cymreig

Mae Cwricwlwm Cymreig yn helpu disgyblion i ddeall a dathlu ansawdd penodol byw a
dysgu yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, i nodi eu hymdeimlad hwy eu hunain o
Gymreictod ac i deimlo eu bod yn perthyn iʼw cymuned leol aʼu gwlad. Mae hefyd yn helpuʼr
disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o Gymru gydwladol syʼn edrych allan iʼr byd, gan

hybu dinasyddiaeth fydeang a diddordeb mewn datblygu cynaliadwy.
Mae datganiad y Gofynion Cyffredin yn nodi pum agwedd y Cwricwlwm Cymreig –

diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol.
Rydym yn sicrhau cyfleoedd i blant ddiwallu anghenion ei chymdogaeth aʼi chymuned leol.

Maeʼr athrawon aʼr ysgol yn:-
cynllunio cyfleoedd perthnasol ac ystyrlon er mwyn gosod astudiaethau
disgyblion mewn cyd-destun Cymreig pryd bynnag y bo’n ddymunol, yn bosibl

ac yn gynhyrchiol.
Darparu cyfleoedd i blant ddefnyddio’r iaith i ehangu eu dealltwriaeth o

bynciau llosg bydeang.
addysgu am y gorffennol, ac yn sicrhau bod y disgyblion yn cwestiynu a
gwerthuso digwyddiadau ac agweddau’r gorffennol er mwyn asesu pa mor

berthnasol ydyw i’r presennol a’r dyfodol.
sicrhau bod y disgyblion yn dysgu am ddiwylliannau Cymru, gan ddechrau

gyda’u traddodiadau eu hunain.
yn galluogi'r plant i archwilio’r celfyddydau creadigol a mynegiannol yng

Nghymru, o’r lleol i’r cenedlaethol, yn draddodiadol ac yn gyfoes.
sicrhau bod ein disgyblion yn astudio arteffactau penodol, i gysyniadau mwy

haniaethol ynghylch safle a dylanwad Cymru yn Ewrop a’r byd ehangach
Trefnir gweithgareddau allgyrsiol i ddisgyblion, megis yr Urdd, eisteddfodau a phrofiadau
preswyl mewn gwersylloedd fel Llangrannog sydd yn eu helpu i ddatblygu eu hiaith ac i

sylweddoli mor bwysig a pherthnasol ywʼr Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

"Bydd rhesymeg yn
mynd â chi o A i B.
Bydd dychymyg yn

mynd â chi
i bobman" Einstein

Cyfoethogiad y Cwricwlwm

Addysg Awyr Agored

Cynhelir diwrnodau o ddysgu yn yr awyr agored lle mae pob disgybl yn
manteisio ar ddysgu o fewn amgylchfyd ysbrydoledig ein byd naturiol. Maeʼr
plant yn elwa o brofiadau anturus sydd yn eu helpu i ddarganfod, arbrofi a
chysylltu gydaʼr ardal leol tu fas pedair wal yr ystafell ddosbarth. Maent hefyd yn
cael y cyfle i ddyfnhau dealltwriaeth oʼu sgiliau ond o fewn cyd-destun a lleoliad gwahanol,
e.e.. Gwaith mesur a rhifedd yn yr awyr agored.

Mae dysgu yn yr awyr agored yn fuddiol iawn i ddatblygiad personol a chymdeithasol plentyn. Mae
astudiaethau yn dangos mae bod yn yr awyr agored yn helpu pobl i fyfyrio, dysgu, cymryd risgiau
positif a chofioʼn well. Maeʼr cysylltiad yma gyda natur hefyd yn arwain at gyfranogiad hyd oes a
chymhwysedd yn yr awyr agored.

“Purposeful experiences in the outdoors can be a catalyst for powerful and
memorable learning” Institute of Outdoor Learning

Y Cwtsh

Rydym yn ffodus iawn o fedru darparu dosbarth maeth iʼr ysgol gyfan, ʻY
Cwtshʼ. Mae rhai plant yn mynd trwy gyfnodau anodd yn eu bywydau neu
angen darpariaeth barhaus i fedru ymdopi gyda dysgu a bywyd cyffredinol.
Maeʼr dosbarth maeth yma i gefnogiʼr plant ac i addysguʼr strategaethau sydd
eu hangen i lwyddo a delio gyda heriau bywyd. Mae gweithgareddau ELSA,
meddylfryd twf, y babell synhwyraidd, therapi Lego aʼr Grŵp Bore da yn
cefnogi datblygiad ein disgyblion. Mae'r ddarpariaeth lles yn cael ei
datblygu o amgylch chwe egwyddor magwraeth (Eva Holmes and Eve Boyd
(1999):

Deallir bod dysgu yn ddatblygiadol

Mae'r ystafell ddosbarth lle diogel

Mae magwraeth yn bwysig ar gyfer datblygu lles unigolyn

Mae iaith yn fodd hanfodol o gyfathrebu

Mae pob ymddygiad yn fath o gyfathrebiad.

Mae ymdrin â newidiadau yn bwysig.

Entrepeneuriaeth

Cynhelir wythnosau entrepreneuriaeth lle maeʼr plant yn cydweithio ar brosiect
dosbarth i werthu gwrthrych yn y ffeiriau ysgol. Maeʼr prosiectau yn

drawsgwricwlaidd ac yn darparu amrywiaeth o dasgau cyfoethog sydd yn
datblygu nifer helaeth o sgiliau. Mae gan y plant cyfle i feddwl yn greadigol,

yn arloesol ac i fentro gyda syniadau a chydweithio tuag at bwrpas
penodol. Maeʼr plant yn mwynhau perchnogaeth y dasg ac yn elwa o weld

canlyniad llwyddiannus iʼw gwaith paratoi.

Wythnosau’r Meysydd Dysgu a Phrofiad

Dyma gyfle iʼr plant ddathlu eu gwaith ar lwyfan yr ysgol - gwledd o
ddathlu gwaith yr holl ddosbarthiadau o dan ymbarel gytûn. Cyfle i weld
yr hyn sydd yn digwydd yn nosbarthiadau eraill, cydnabod gwaith eraill,
ac ymestyn eu dealltwriaeth nhw oʼr maes. Maeʼr wythnosau yma yn cynnig
statws iʼr maes dysgu a phrofiad ac yn ennyn parch y dysgwyr.

Meddylfryd Twf
Meddylfryd twf yw'r gred bod deallusrwydd yn gwella trwy astudio ac ymarfer.
Mae pobl syʼn credu bod yr ymennydd yn gallu tyfu, yn gwneud yn well yn yr
ysgol gan eu bod nhwʼn canolbwyntio ar wella. Maent yn gweld ymdrech fel
ffordd i wella eu galluoedd. Maen nhwʼn gweld methu fel rhan naturiol oʼr
broses ddysgu.
Rydym yn hyrwyddo egwyddorion ac arferion meddylfryd twf o fewn Ysgol
Santes Tudful i ddatblyguʼr disgyblion i fod yn uchelgeisiol, mentrus, hyderus,
galluog a chreadigol.

Annibyniaeth
Maeʼn hanfodol i blant cael cyfleoedd i wneud penderfyniadau a dewisiadau
yn annibynnol. O fewn yr ysgol, rydyn niʼn hyfforddiʼr disgyblion gyda
thechnegau i ddatrys problemau ac i ddyfalbarhau wrth ddelio gydag
anhawster. Rydym yn hyrwyddoʼr ʻPum Naidʼ o fewn y dosbarth sydd yn rhoiʼr
camau iddyn nhw i ddilyn er mwyn datrys yr anhawster. O fewn y dosbarth rydym
yn eu cwestiynu nhw mewn ffordd sydd yn gwneud iddyn nhw i feddwl am ddatrysiad
yn hytrach na disgwyl i rywun ddarparuʼr ateb. Mae pob disgybl â chyfrifoldeb dros eu
hymddygiad aʼu dysgu. Rhoddir cyfleoedd dyddiol iddyn nhw i drafod yr hyn maen nhw wedi eu
dysgu trwy ddulliau hunan asesu.
Gwaith Cartref
Cynllunnir tasgau gwaith cartref i atgyfnerthuʼr dysgu o fewn yr ysgol a hefyd i baratoi ar gyfer dysgu
sydd i ddod. Bydd y tasgau yn cael eu cwblhau o fewn llyfr gwaith cartref ac ar-lein trwy blatfform
digidol fel Seesaw neu Google Classroom.
Darllen
Disgwylir i bob plentyn ymarfer eu darllen mor aml â phosib yn y tŷ. Mae plant y Cyfnod Sylfaen yn
newid llyfrau o fewn yr wythnos ac yn mynd a llyfr darllen adref pob penwythnos. Mae plant yr Adran
Iau yn mynd aʼu llyfrau darllen (Cymraeg a Saesneg) adref bob nos ac os ydyn nhwʼn barod i newid y
llyfr maen nhwʼn newid eu llyfr Cymraeg a Saesneg bob yn ail wythnos. Bydd sylwadau a thargedau yn
cael eu gosod o fewn cofnod darllen a disgwylir i rieni ymateb iʼr rhain a nodi faint o ymarfer sydd yn
digwydd yn y cartref. *Oherwydd canllawiau atal Covid ein hasesiad risg, fe fydd y broses darllen yn
digwydd trwy Seesaw.

Cwis Llyfrau
Maeʼr ysgol eisoes wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Cwis Llyfrau Cyngor llyfrau Cymru. Rydym

wedi bod yn llwyddiannus iawn ar hyd y blynyddoedd gydaʼn timoedd o blant blwyddyn
3&4 a 5&6. Os ydyʼr tîm yn cyrraedd y rownd derfynol, disgwylir iddynt fedru trafod
llyfr yn drylwyr ac yna perfformio cyflwyniad dramatig o lyfr ar lwyfan Canolfan
Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth.

Heddlu Bach (Mini Police-Safer Roads Merthyr)
Mae swyddogion yr Heddlu yn hyfforddi aelodau Blwyddyn 5 i fod yn rhan o
Heddlu bach y gymuned.

Mae'r cynllun Heddlu Bach yn gyfle gwirfoddoli rhyngweithiol ar gyfer plant
9-11 oed, sy'n dilyn dull 3 cham, Addysg, Cymuned a Gwobrwyo. Yr amcan
yw cyflwyno'r plant i brofiad cadarnhaol o blismona a chael nhw i gymryd
rhan yn y gymuned leol.
Mae PCSOs yn darparu addysg ar flaenoriaethauʼr heddlu sydd wedyn yn cael
ei raeadru i lawr i weddill yr ysgol gan yr Heddlu Bach. Yna bydd y plant yn
cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol i wella hyder a balchder y
gymuned fel codi sbwriel, diogelwch ar y ffyrdd a chyfleoedd gyda chenedlaethau
gwahanol.

Llangrannog
Mae Ysgol Santes Tudful wedi bod yn ymweld â gwersyll Llangrannog ers 1976. Pob blwyddyn maeʼr
Adran Iau yn mynd iʻr gwersyll am benwythnos llawn gweithgareddau hwylus ac anturus. Maent yn
cael eu trochi yn yr iaith Gymraeg trwy gydol y penwythnos ac yn cael cyfle i ddatblygu eu
perthnasau ar ôl y gwyliau haf.
Yn y dyfodol, gobeithiwn gael defnyddio gwersyll yr Urdd ym mae Caerdydd a gwersyll Parc
Margam.

Wythnos Sgiliau Blwyddyn 6
Fel rhan oʼu haddysg a phrofiad mae disgyblion blwyddyn 6 yn cymryd rhan
mewn ʻWythnos Sgiliauʼ. Wythnos drawsgwricwlaidd sydd â ffocws pendant ar
brofiadau bywyd. Maeʼr plant yn elwa o gael dysgu am gymorth cyntaf, beicio
yn ddiogel ar y ffordd, cyfeiriannu, dringo waliau, coginio, gwnïo, adeiladu
pabell, caiacio, sut i gynnal a chadw car, sut i ddechrau cyfrif banc, dringo Pen-
y-Fan a llawer mwy.

Offerynnau
Darparir gwersi trombôn, telyn a ffidl i grwpiau o blant yr Adran Iau gan athrawon
teithiol oʼr Awdurdod aʼr ysgol syʼn talu am eu gwasanaeth.

Eisteddfod
Maeʼr ysgol wedi cystadlu yng nghystadlaethauʼr Urdd ers blynyddoedd maith. Yn
ogystal âʼr cystadlaethau traddodiadol o adrodd a chanu yn unigol ac mewn côr
maeʼr ysgol yn cystadlu yn y dawnsio creadigol, dawns cyfrwng cymysg, dawnsio
gwerin, celf a chrefft, y cogurdd aʼr telynau. Mae pob plentyn o fewn oedran y
categorïau yn cael y cyfle i drio am y cystadlaethau gyda sawl sesiwn o dreialu
ac ymarfer. Y cam nesaf ydyʼr Eisteddfod Ysgol lle mae beirniaid allanol yn
dewis yr ymgeiswyr buddugol sydd yn symud ymlaen iʼr Eisteddfod Gylch ac
yna gobeithio iʼr Eisteddfod Genedlaethol.

Cwis Llyfrau
Maeʼr ysgol eisoes wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Cwis Llyfrau Cyngor
llyfrau Cymru. Rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn ar hyd y blynyddoedd
gydaʼn timoedd o blant blwyddyn 3&4 a 5&6. Os ydyʼr tîm yn cyrraedd y rownd
derfynol, disgwylir iddynt fedru trafod llyfr yn drylwyr ac yna perfformio
cyflwyniad dramatig o lyfr ar lwyfan Canolfan Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth.

Clybiau

Mae amrywiaeth o glybiau yn cael eu darparu ar gyfer ein disgyblion. Yn bennaf mae'r rhain yn
digwydd ar ôl oriau ysgol ond mae canran yn digwydd yn ystod amser cinioʼr staff. Mae rhai clybiau/
sesiynau ymarfer yn ddibynnol ar amser y flwyddyn a digwyddiadau arbennig, e.e.. yr Eisteddfod aʼr
Cwis Llyfrau.

Clybiau Cyfnod Sylfaen Clybiau Adran Iau

• Celf a Chrefft • Garddio • Pêl Droed
• Ffitrwydd
• Coginio • Rygbi

• Pêl rwyd

• Codio

• Trawsgwlad

Ymwelwyr ac Ymweliadau
Rydym yn manteisio ar bob cyfle i gyfoethogi dysguʼr plant gydag ymweliadau neu ymweliadau gan
arbenigwyr. Maeʼr profiadau yma yn rhoi cyfleoedd cofiadwy o ddysgu yn ymarferol aʼr cyfle i
gwrdd â rhyngweithio gyda phobl, llefydd ac adeiladau mewn ffyrdd newydd. Trwy gydol y
flwyddyn gwahoddir nifer o ymwelwyr i gynnig sioeau, gweithdai a thrafodaethau.
-Parchedig Rushton aʼr Parchedig Coleman.
-Heddwas gymunedol PC Lloyd
-Nurse yr Ysgol
-Cwmniau drama amrywiol e.e Theatr NaʼNog aʼr Cwmni Blodau Haul.
-Techno Camps
-Bardd Plant Cymru
-Gweithdai barddoniaeth
-Rainforest Roadshow
-St Johnʼs Ambulance
-Gwarchodfa Tylluanod Glynebwy
-Gwasanaeth Awyr Agored Coleg Merthyr
-Arlunwyr
-Awduron
-Gweithdai Theatr Naʼ Nog
-Gwyl Llyfrau Stephens and George



Ymweliadau Addysgiadol

Trefnir ymweliadau y tu allan iʼr Ysgol i ddisgyblion bob tymor aʼr Blynyddoedd Cynnar yn
achlysurol fel arfer er mwyn hyrwyddo gwaith y dosbarth ac ehangu profiadau disgyblion
unigol. Bydd dosbarthiadau yn ymweld â safleoedd amrywiol e.e. ʻSain Ffaganʼ a/neu
ʻLlancaiach Fawrʼ, amgueddfeydd, sioeau, lleoliadau natur.

Ystyrir bod yr ymweliadau hyn yn rhan bwysig oʼr cwricwlwm ac anogir pob disgybl i fynd ar
yr ymweliadau. Gwahoddir arbenigwyr i'r ysgol i rannu profiadau a gwybodaeth, neu
weithiau bydd y teithiau'n dod â gwaith hanner tymor i ben ac yn ddathliad o sgiliau a
gwybodaeth sydd newydd eu caffael. Bydd y teithiau hyn yn newid i gyd-fynd gyda themâu'r
flwyddyn ysgol.

Trefnir hefyd i gwmnïau drama ymweld âʼr Ysgol yn achlysurol i berfformio sioeau iʼr
disgyblion yn Neuadd yr Ysgol e.e. Cwmni Theatr ʻSpectacleʼ.

Bydd yr Ysgol yn gofyn yn garedig am gyfraniad ariannol tuag at gostauʼr ymweliadau hyn.

Bydd Arweinydd Ymweliadau Addysgol yr Ysgol a/neuʼr athro/athrawes dosbarth yn
gwneud ʻasesiad risgʼ cyn unrhyw ymweliad y tu allan i'r Ysgol.

Fel arfer, rhoir pythefnos o rybudd i rieni ynghylch ymweliadau. Bydd pob ymweliad wedi ei
yswirio a chyda lefelau mwy na digonol o oruchwyliaeth gan ddilyn canllawiau a chyngor yr
Awdurdod Lleol.

Codi a Dileu Taliadau

Trefnir ymweliadau addysgol yn dymhorol i ddisgyblion.
Rydym yn sicrhau bod gwerth arian i bob ymweliad gan
ymchwilio prisoedd trafnidiaeth a safle ymweliad. Gofynnwn
i rieni am gyfraniad tuag at gostau yr ymweliadau hyn.

Byddwn yn annog holl ddisgyblion yr Ysgol i ymaelodi âʼr
Urdd yn flynyddol (oddeutu £8.00 y flwyddyn iʼw dalu ym
mis Medi).

Hefyd trefnir deyddydd yn Llangrannog i ddisgyblion
Blwyddyn 5 a 6 ym mis Medi (costau tua £150 heb gynnwys
arian poced). Maeʼn bosib dechrau talu hwn yn nhymor yr
haf a thrwyʼr gwyliau haf trwy Parent Pay.

Cyn y Nadolig ac ar ddiwedd y flwyddyn academaidd,
cynhelir cyngherddau gan wahanol adrannau yr Ysgol – Y
Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Byddwn yn codi pris
rhesymol am docynnau i rieni a pherthnasau eraill cael
gweld y cyngherddau hyn.

Defnyddir yr elw a wneir at les y plant i gyd ~ efallai i brynu
rhagor o offer iʼr ysgol a / neu i dalu am fysiau ar gyfer
gwibdeithiau yn ystod y flwyddyn.

Ni fydd yr ysgol yn codi tâl am fynd â disgyblion mewn
bysiau i chwaraeon yn erbyn ysgolion eraill neu
bencampwriaethau.

O bryd iʼw gilydd, fe fyddwn yn gofyn am gyfraniad tuag at
berfformiadau yn yr Ysgol gan gwmniau drama, theatr
bypedau neu weithdai Technoleg neu Wyddoniaeth ac ati
syʼn ymweld yn achlysurol.

Cynghorwn unrhyw deuluoedd sydd â phroblemau ynghylch
cyfrannu tuag at ymweliadau a chostau eraill yn ymwneud
âʼr Ysgol i gysylltu âʼr Pennaeth i drafod.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol

Deddf ADY newydd i Gymru

Bydd y ddeddf ADY newydd yn sicrhau bod pob ysgol yn darparu system addysg gwbl gynhwysol
i ddysgwyr yng Nghymru. System lle mae anghenion yn cael eu nodi'n gynnar ac yn cael sylw
cyflym, a lle mae pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial. Mae gan tua 22 y cant o'r
holl ddysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru AAA. O dan y system newydd, bydd y
cynllunio yn hyblyg ac yn ymatebol, bydd pob gweithiwr proffesiynol ysgolion yn fedrus ac yn
hyderus wrth nodi anghenion a defnyddio strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn eu rhwystrau i
ddysgu, a bydd y dysgwr yng nghanol popeth.

Pryd fydd y ddeddf newydd yn cychwyn?

Bydd hyfforddiant gweithredu yn cael ei gyflwyno yn 2020 a 2021, a disgwylir iʼr system ADY
newydd fynd yn fyw ym mis Ionawr 2022. Bydd y cyfnod gweithreduʼn para tair blynedd tan haf
2024, pryd y caiff datganiadau AAA presennol, cynlluniau addysg unigol, a chynlluniau dysgu a
sgiliau eu trosi i gynlluniau datblygu unigol (CDU). Caiff hyn ei wneud drwy ddull graddol a
gorfodol ar sail carfannau penodol syʼn seiliedig ar oedran. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y system
ADY yn gweithreduʼn gyfochrog âʼr system AAA

Newidiadau Allweddol

ADY yn disodli'r term AAA + LDD Dylai'r system gynllunio newydd
er mwyn ailffocysu ar symleiddio'r gweithdrefnau cynllunio
ddisgwyliadau a phrofiadau'r rhai a cyfredol.
gefnogir gydag ADY. Disgwylir i bob asiantaeth sy'n
Bydd pawb sy'n ymwneud â cefnogi ADY weithio'n agosach
chefnogi ADY o 0-25 nawr yn gyda'i gilydd a chydweithio.
gweithio o'r un fframwaith Bydd datrys anghytundeb yn
deddfwriaethol. digwydd ar y lefel fwyaf lleol bosibl.
Mae fformat sengl CDU (Cynllun
Datblygu Unigol) newydd yn darparu
parhad o enedigaeth i 25 oed.

Bydd cynllunio ar gyfer ADY yn Mae hawliau apelio yn glir ac yn
defnyddio Dull sy'n Canolbwyntio ar gyson i bawb.
yr Unigolyn, a wneir gyda'r plentyn
neu'r person ifanc.

Bydd y CDU newydd yn Bydd y Côd ADY newydd yn darparu
canolbwyntio ar gamau diriaethol i set o baramedrau clir, statudol y gellir
gynorthwyo plant a phobl ifanc i eu gorfodi yn gyfreithiol.
gyrraedd eu potensial llawn.

Dull dwyieithog - Lle bynnag y bo hynny'n bosibl os gofynnir am wasanaethau yn
Gymraeg, fe'u darperir yn Gymraeg.

Arferion sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn. (PCP)
Ein nod yn Ysgol Santes Tudful yw canolbwyntio ar y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn addysgu.
Credwn fod pob plentyn yn unigolyn ac y dylid personoli'r dysgu. Rydym yn defnyddio ystod o offer
meddwl sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ystod sesiynau amser cylch a lles. Mae'r offer hyn yn
helpu staff i ddod i adnabod y plant ar lefel ddyfnach a deall eu hanghenion. Mae Offer PCP yn
cynnwys;
Cylch perthnasoedd
Beth sy'n gweithio / ddim yn gweithio
Diwrnod da / diwrnod gwael
4 ac 1 cwestiwn
Mae defnyddio'r strategaethau yma yn helpu i ffurfio Proffil Un Tudalen.

Proffiliau Un Tudalen.
Mae Proffil Un Tudalen yn dal yr holl wybodaeth bwysig am berson ar un ddalen o bapur o dan dri
phennawd syml: yr hyn y mae pobl yn ei werthfawrogi amdanaf, beth sy'n bwysig i mi a sut orau i'm
cefnogi.
Mae gan bob plentyn Broffil Un Tudalen.

Y Cwtsh (Dosbarth Maeth)
Mae'r ddarpariaeth lles yn cael ei datblygu o amgylch chwe egwyddor anogaeth:
-Deallir bod dysgu yn ddatblygiadol
-Mae'r ystafell yn cynnig sylfaen ddiogel
-Pwysigrwydd maeth ar gyfer datblygiad lles
-Mae iaith yn fodd hanfodol o gyfathrebu
-Mae pob ymddygiad yn fath o gyfathrebiad
-Pwysigrwydd trosglwyddiad ym mywydau plant a phobl ifanc

Bydd plant sy'n gymwys i gael mynediad i'r Cwtsh yn cael sesiynau wythnosol. Nod The Cwtsh yw
annog pob plentyn i fod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain. Ein nod yw rhoi'r sgiliau i'r plant
wneud yn dda yn yr ysgol, gwneud ffrindiau a delio'n fwy hyderus a thawel â threialon a helyntion
bywyd. Mae lles ac iechyd meddwl yr holl blant sy'n mynychu'r Cwtsh yn cael ei fonitro a'i drafod yn
aml gyda'r dosbarth prif ffrwd.



Iechyd, Lles a Chwaraeon

Mae gan yr ysgol hanes hir o lwyddiant yn y maes yma ac rydym
yn ymfalchïo yn yr holl weithgareddau a gynigir i bob plentyn.
Rydym yn ceisio gwella hunan hyder, ymwybyddiaeth a
phwysigrwydd iechyd a rheolaeth corff pob plentyn drwy
weithgareddau unigol a grŵp. Darparwn wersi syʼn gwella
gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a gallu mewn gymnasteg,
gemau, athletau, dawns, nofio a gweithgareddau antur a
gweithgareddau awyr agored.
Mae pob disgybl yn derbyn gwers addysg gorfforol yr wythnos.
Mae cynnwys y rhain yn amrywio trwy gydol y flwyddyn er mwyn
datblygu trawstoriad o sgiliau ac i ddarparu profiadau amrywiol.
Yn ogystal â gwersi chwaraeon penodol mae agweddau iechyd a
lles yn treiddio gwersi trawsgwricwlaidd y disgyblion.
Maeʼr meddylfryd canlynol yn sail i bob gwers.
-Mae datblygu iechyd a lles corfforol yn fanteisiol gydol ein hoes.
-Mae sut yr ydym yn prosesu ac yn ymateb iʼn profiadau yn cael
effaith ar ein hiechyd meddyliol aʼn lles emosiynol.
-Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni
a bywydau pobl eraill.
-Mae sut yr ydym yn ymateb i wahanol ddylanwadau
cymdeithasol yn siapio pwy ydym ni aʼn hiechyd aʼn lles.
-Mae cydberthnasau iach yn sylfaenol iʼn hymdeimlad o berthyn
a lles.
Manteisir ar gyfleoedd i blant gynrychioliʼr ysgol yng
nghystadlaethau chwaraeon yr Urdd megis nofio, pêl droed,
rygbi, athletau a gymnasteg. Rydym hefyd yn mynychu
diwrnodau chwaraeon yr Urdd.
Nofio
Mae Blwyddyn 3 a 5 yn derbyn pythefnos trylwyr o wersi o fewn
y flwyddyn. Maeʼr plant yn cael eu hasesu ar ddechrauʼr
pythefnos ac eto ar y diwedd i fesur cynnydd. Trwy gael cyfres o
wersi dyddiol gan arbenigwyr, maeʼr plant yn datblygu eu sgiliau
yn gyflym, gyda rhai yn dechrau gydag ofn y dŵr ac ynaʼn
gorffen yn mwynhauʼr dŵr ac yn gallu nofio. Rhannir y gwersi
fesul gallu a chynllunnir gwersi yn ôl gofynion y cynllun ʻNofio
Ysgolʼ (School Swimming for Wales). Ar ddiwedd y cyfnod mae
pob plentyn yn derbyn tystysgrif.
Milltir y Dydd
Yn ystod y diwrnod ysgol maeʼr athrawon yn manteisio ar
gyfleoedd o gael sesiynau bach byr o ymarfer y corff yn yr awyr
agored. Maeʼr plant yn cerdded neuʼn loncian ar dir yr ysgol
gydaʼr bwriad o gyflawni milltir y diwrnod ac yna 5, 10 a 20
milltir dros y flwyddyn.
Clybiau
Maeʼr ysgol yn ffodus iawn i gael staff medrus sydd yn cynnal
clybiau yn ystod eu hamser cinio ac ar ôl ysgol. Mae amrywiaeth
o glybiau yn cael eu darparu ar gyfer ein disgyblion. Mae rhai
clybiau/sesiynau ymarfer yn ddibynnol ar amser y flwyddyn a
digwyddiadau arbennig.

Wythnos Iechyd Meddwl
Gan ddilyn thema Wythnos Iechyd Meddwl Plant ʻPlace2beʼ maeʼr
ysgol yn cynnal wythnos o weithgareddau yn ffocysu ar Iechyd
Meddyliol Plant. Mae gwersi lles yn digwydd o hyd yn yr ysgol ond
mae iechyd meddwl plant yn derbyn ffocws trylwyr yn ystod yr
wythnos hon. Maeʼr ysgol gyfan yn gyd gynllunio tasgau pwrpasol i
bob blwyddyn fel bod trawstoriad addas o weithgareddau. Mae
ymagwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc
yn holl bwysig ac yn sicrhau maeʼr plant yn deall yr holl ffactorau
sydd yn gallu effeithio iechyd meddwl person o bryd iʼw gilydd. Y
gobaith yw bydd y plant a chasgliad o strategaethau i helpu nhw i
ddelio gyda herio personol.
Wythnos Wrth Fwlio
Cynhelir wythnos pob blwyddyn lle maeʼr ysgol gyfan yn trafod
materion yn ymwneud a bwlio ac yn cwblhau gweithgareddau. Trwy
gydol y flwyddyn rydym yn hyrwyddo'r neges gwrth-fwlio trwy
amser cylch a'n cwricwlwm iechyd a lles. Fel ysgol rydym yn teimlo
bod yr wythnos gwrth-fwlio yn gyfle i gyd weithio fel ysgol gyfan
tuag at yr un neges ac ynaʼn rhannu'r neges hon â'r gymuned
ehangach. Rydym yn gweithio ar bob math o dopig yn gysylltiedig
â gwrth-fwlio, er enghraifft, hyrwyddo cydraddoldeb ac
amrywiaeth, trafod beth ydy bwlio ar-lein a sut i ddelio gyda hi,
ymarfer sgiliau cymdeithasol a hawliau plant.
Wythnos Diogelwch y We
Manteisir ar bob cyfle i addysguʼr plant sut i fod yn ddiogel wrth
ddefnyddioʼr we a thechnoleg ddigidol. Mae uned o fewn ein
cynllun ysgol sydd yn canolbwyntioʼn fawr ar lythrennedd digidol a
sut i fod yn ddinesydd digidol cyfrifol. Mae ein gweithgareddau yn
seiliedig ar beth i ymddiried ynddo ar-lein, beth i wneud os ydy
rhywbeth yn ymddangos yn anghywir a sut mae cefnogiʼr plant i
gwestiynu, herio a newid y byd ar-lein.
Beicio
Am bythefnos yn nhymor yr haf mae Blwyddyn 6 yn cael gwersi
beicio. Maeʼr plant yn cael eu hasesu ac ynaʼn gweithio tuag at
lefel 1 a 2. Cynhelir yr hyfforddiant gan o leiaf dau hyfforddwr yn
unol â safonau cydnabyddedig hyfforddiant beicio. Mae Lefel 1 yn
digwydd ar dir yr ysgol ac yn canolbwyntio ar sgiliau rheoli. Mae
Lefel 2 yn digwydd ar y ffyrdd lleol. Y nod cyffredinol yw arfogi
disgyblion â'r sgiliau i feicio yn fwy diogel. Mae'r cwrs hefyd yn
codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'r ffyrdd.
ELSA
Mae ELSA yn sefyll am Emotional Literacy Support Assistant. Mae
nifer oʼn staff wedi derbyn hyfforddiant ELSA lle maen nhw wedi
dysgu am sut i gynnig cymorth i helpu plant gydaʼu sgiliau
cymdeithasol, emosiynau, profedigaeth, tymer a hunan-barch.
Maeʼr staff hefyd yn derbyn sgiliau cwnsela ac yn dysgu sut i
ddefnyddio straeon cymdeithasol a straeon therapiwtig i helpu
dealltwriaeth y plant. Mae ELSA yn llwyddiannus iawn o fewn yr
ysgol ac yna i helpu unrhyw blentyn sydd angen ychydig o gymorth
yn eu bywydau. Nid ydym yn cychwyn sesiynau ELSA heb ganiatâd
y rhieni.

Meddylfryd Twf
Meddylfryd twf yw'r gred bod deallusrwydd yn gwella trwy astudio ac ymarfer.
Mae pobl syʼn credu bod yr ymennydd yn gallu tyfu, yn gwneud yn well yn yr
ysgol gan eu bod nhwʼn canolbwyntio ar wella. Maent yn gweld ymdrech fel ffordd
i wella eu galluoedd. Maen nhwʼn gweld methu fel rhan naturiol oʼr broses ddysgu.
Rydym yn hyrwyddo egwyddorion ac arferion meddylfryd twf o fewn Ysgol
Santes Tudful i ddatblyguʼr disgyblion i fod yn uchelgeisiol, mentrus, hyderus,
galluog a chreadigol. Yn fwy nag erioed mae gwytnwch, dyfalbarhad a
hunanwerth yn hanfodol o bwysig.
Nyrs
Maeʼr nyrs gymunedol yn ymweld âʼr ysgol yn rheolaidd i addysgu
negeseuon pwysig ynglŷn â materion iechyd perthnasol-germau,
ysmysgu, bwytaʼn iach, glendid personol ayb.
Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol
Sicrhawyd bod nifer oʼn staff wedi derbyn hyfforddiant
Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (Positive Behaviour
Support). Dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn
ymdrin ag anawsterau dysgu ac ymddygiadau heriol. Y
bwriad yw darparu cefnogaeth sydd wedi ei theilwra iʼr
unigolyn ac sydd yn seiliedig ar gynhwysiant, dewis,
cyfranogiad a chyfle cyfartal.
Arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn (PCP-
Person Centred Practices)
Maeʼr ysgol yn ymarfer dulliau sydd yn canolbwyntio ar yr
unigolyn ac yn cynnwys yr unigolyn. Mae gan bob un
plentyn Proffil 1 Tudalen ac maeʼr dysgwyr sydd ag
anghenion addysgiadol ychwanegol yn rhan o ddatblygiad
unrhyw gynllun addysg.
Mae dulliau meddwl sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ffordd
drylwyr o sicrhau bod addysg yn diwallu anghenion pob plentyn
neu berson ifanc, gan gydnabod bod gan bob un arddull unigryw
o ddysgu, cyfathrebu, meithrin perthnasoedd a gwneud
penderfyniadau.
Addysg Awyr Agored
Cynhelir diwrnodau o ddysgu yn yr awyr agored lle mae pob disgybl yn
manteisio ar ddysgu o fewn amgylchfyd ysbrydoledig ein byd naturiol.
Maeʼr plant yn elwa o brofiadau anturus sydd yn eu helpu i ddarganfod,
arbrofi a chysylltu gydaʼr ardal leol tu fas pedair wal yr ystafell ddosbarth.
Maent hefyd yn cael y cyfle i ddyfnhau dealltwriaeth oʼu sgiliau ond o fewn cyd-
destun a lleoliad gwahanol, e.e.. Gwaith mesur a rhifedd yn yr awyr agored.
Mabolgampau
Pob haf maeʼr ddau gyfnod allweddol yn cymryd rhan ym Mabolgampauʼr ysgol.
Mae carwsél o weithgareddau hwylus yn cael eu darparu lle mae pob dosbarth

yn cael y cyfle i gystadlu a chymryd rhan i ennill pwyntiau iʼw llysoedd ysgol.



Llais y Disgybl

Mae tystiolaeth yn dangos y mwyaf y mae disgyblion yn cymryd rhan yn y broses ddysgu, y mwyaf
effeithiol yw eu dysgu. O ganlyn, mae disgyblion yn ymwybodol oʼr ffactorau sy'n eu helpu i ddysgu
ac yn gallu adnabod y rhwystrau sydd iʼr dysgu. Mae rhannuʼr ffactorau yma o fewn trafodaeth
agored yn golygu bod yr ysgol yn ymateb i anghenion y disgyblion. Rôl allweddol y cynghorau ysgol
yw arsylwi gwersi a bod yn rhan oʼn cylch monitro o fewn yr ysgol. Mae hwn yn darparu persbectif
gwerthfawr arall.

“Sylwais i fod pawb yn teimlo’n hyderus ac yn fodlon siarad a rhannu barn”

Maeʼr ymarferion o gasglu llais y disgybl yn digwydd yn rheolaidd o fewn pob dosbarth wrth
gynllunio gwaith y tymor. Mae pob disgybl yn trafod themaʼr tymor ac yn cyd-gynllunio'r hyn maen
nhw eisiau eu dysgu.

Cyngor Ysgol

Etholwyd cynrychiolydd o bob dosbarth (Bl2 i fyny) i eistedd ar y Cyngor Ysgol. Maeʼr plant yn
cynnal cyfarfodydd i drafod digwyddiadau ac i glywed am ddatblygiadau syʼn effeithio ar yr ysgol
aʼr disgyblion. Maent hefyd yn helpu i wneud penderfyniadau am rai agweddau o fywyd yr ysgol.
Mae ganddynt rôl bwysig iʼw chwarae gan eu bod hefyd yn gorfod adrodd yn ôl iʼw dosbarthiadau
ac ysgol gyfan ar ôl y cyfarfodydd. Ar adegau bydd y Cyngor Ysgol hefyd yn trafod elfennau o
fywyd ysgol gydag ymwelwyr.

Llysgenhadon yr Ysgol

Mae ein llysgenhadon yn hyrwyddo gwerthoedd ac ethos ein hysgol. Fe'u
dewiswyd nhw oherwydd eu bod nhwʼn teimloʼn angerddol am les y plant yn
ein hysgol ac maen nhw eisiau cefnogiʼr ysgol i symud ymlaen. Maeʼr plant
yn fodelau rôl arbennig ac yn dangos sut i drin eraill gyda pharch a
charedigrwydd.

Mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys:-

Cyfarfod a chyfarch ymwelwyr

Arwain digwyddiadau codi arian

Cynnal arolygon disgyblion

Arsylwi dysgu mewn ystafelloedd dosbarth ac ymddygiad maes chwarae

Cyfarfod âʼr Cyngor Ysgol

Ysgrifennu cylchlythyr y llysgenhadon ʻSeren Santesʼ.

Trafod gydag unigolion sydd wedi anghofio sut mae ymdrin ag eraill mewn ffordd gwrtais, barchus a
charedig.

Criw Digidol

Maeʼr Criw Digidol yn dysgu sgiliau penodol yn ymwneud a thechnolegau digidol ac ynaʼn ymweld
â dosbarthiadau'r ysgol i rannu eu harbenigedd gyda disgyblion a staff. Maen nhw hefyd yn helpuʼr
gymuned trwy ymweld â chartref henoed yr ardal leol a helpu oedolion i ddefnyddioʼr we. Fe fydd y
criw yn brysur iawn yn y flwyddyn nesaf yn helpu paratoiʼr ysgol am y Cwricwlwm Newydd.

Criw Cymraeg

Mae ein Criw Cymraeg yn gwneud job ffantastig yn annog plant i ddefnyddioʼr Gymraeg wrth
chwarae ar yr iard. Maen nhw yna iʼw clodfori aʼi gwobrwyo am ddefnyddioʼr Gymraeg mewn
gosodiad cymdeithasol. Maen nhwʼn gosod esiampl dda i bawb ac yn gymorth mawr i staff yr
ysgol. O fewn gwasanaethau, maen nhwʼn cyflwyno negeseuon pwysig ac yn helpu ni i ddathlu
Cymro a Chymraes yr wythnos. Maeʼr criw yn rhannu newyddion gydaʼr gymuned ac yn cyfrannu
tuag gylchlythyr yr ysgol, ʻSeren Santesʼ.

Rydym yn hynod falch o ennill Gwobr Platinwm y Siarter Iaith ac yn diolch iʼr criw am gynrychioliʼr
ysgol yn arbennig o dda.

Cyngor Eco

Sefydlwyd Cyngor Eco ein hysgol gyda chynrychiolwyr o bob dosbarth o flwyddyn dau i chwech.
Mae Cyngor Eco'r ysgol yn cyfarfod yn rheolaidd i lunio ac yna gweithredu cynllun gweithredu iʼr
ysgol ar gyfer gwella'r amgylchedd. Maeʼr plant yn trafod ffyrdd o wella amgylchedd eu hysgol ac
yn trafod anghenion iechyd y lles y disgyblion. Maen nhw hefyd yn weithredol iawn o amgylch yr
ysgol yn casglu sbwriel, monitro ein defnydd dwr, sefydlu ffyrdd o arbed ynni yn yr ysgol a rhannu
negeseuon pwysig yn ein gwasanaethau.

Cyfleoedd Cyfartal

Mae gennym Gynllun Cydraddoldeb Strategol syʼn sicrhau cydraddoldeb addysg a chyfle iʼr holl
ddisgyblion, staff, rhieni a gofalwyr syʼn derbyn gwasanaethau gan yr ysgol, ni waeth beth yw eu
hanabledd, hil, rhyw, oedran, tueddfryd rhywiol, crefydd neu gred, ailbennu rhywedd,
beichiogrwydd a mamolaeth, priodas a phartneriaeth sifil. Rydym yn ceisio datblygu diwylliant o
gynhwysiad ac amrywiaeth syʼn galluogi pawb syʼn gysylltiedig âʼr ysgol i deimloʼn falch oʼi
hunaniaeth, a chyfranogiʼn llawn ym mywyd yr ysgol.

Caiff cyflawniad disgyblion ei fonitro, a byddwn yn defnyddioʼr data hwn i gefnogi disgyblion, codi
safonau a sicrhau addysgu cynhwysol. Byddwn yn mynd iʼr afael â gwahaniaethu drwy hyrwyddo
cydraddoldeb yn gadarnhaol, herio bwlio ac ystrydebau a chreu amgylchedd syʼn hyrwyddo parch
at bawb. Yn Ysgol Santes Tudful credwn fod amrywiaeth yn gryfder y dylid ei barchu aʼi ddathlu gan
bawb syʼn addysgu, ac yn dysgu yma, ac yn ymweld âʼr ysgol.

Cydraddoldeb Hiliol

Rydym wedi ymrwymo i:

1. Hyrwyddo cyfle cyfartal.

2. Hyrwyddo cysylltiadau da rhwng aelodau gwahanol grwpiau a

chymunedau hiliol, diwylliannol a chrefyddol.

3. Cael gwared o wahaniaethau anghyfreithiol.

Dathlu Amrywiaeth ac Hyrwyddo Cynhwysiant

Mae staff yn cynnal gweithgareddau syʼn herio disgyblion oʼr dosbarth meithrin ymlaen i
werthfawrogi a meddwl yn ofalus am safbwyntiau pobl eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn
cytuno â nhw. Rydym yn sicrhau trafodaethau am wahaniaethau mewn ethnigrwydd,
anabledd, a chyfeiriadedd rhywiol. Trwyʼr sgyrsiau yma mae ein disgyblion yn dathlu
amrywiaeth ac yn datblygu eu hempathi am bobl eraill. O fewn Cwricwlwm ein hysgol
rydym yn sicrhau ein bod niʼn hyrwyddo cynhwysiant a herio stereoteipio mewn ffordd
naturiol a phriodol a thrwyʼr cwricwlwm ehangach.

Mae cynnwys y Cwricwlwm yn datblygu fel maeʼr plant yn symud trwyʼr ysgol. Trefnir
gweithgareddau, storiâu, trafodaethau ac achlysuron am y nodweddion canlynol:-

Gwahanol berthnasoedd yn y cartref

Rôl menywod

Hil + Hanes pobl dduon

LGBT

Anabledd

Ethnigrwydd

Crefydd neu Gred

Oed

Priodas a Phartneriaeth Sifil

Rydym yn addysgu disgyblion am wahaniaethu yn erbyn pobl LGBT fel rhan oʼu
hymagwedd gyffredinol at fynd iʼr afael â bwlio. Ein bwriad yw datblygu eu dealltwriaeth
fod pobl LGBT yn bodoli ym mhob math o deuluoedd ac o fewn pob rôl mewn cymdeithas.

Pontio a Throsglwyddo

Mae gan Ysgol Santes Tudful gysylltiad da gydag Ysgol
Rhydywaun. Mae rhaglen pontio drylwyr ganddynt sydd yn eu
paratoi nhw ar gyfer eu dechreuad newydd ym mlwyddyn 7.

Yn ystod eu hamser ym Mlwyddyn 4 caiff y plant blas ar fywyd
Rhydywaun ac yn ymweld âʼr ysgol am hanner diwrnod.

Ym Mlwyddyn 5 byddent yn mynd am ddiwrnod llawn ac yn
cael profiad o wersi.

Cynhelir noson agored i rieni plant Blwyddyn 6 lle mae staff
Rhydywaun yn cynnal cyflwyniad am yr ysgol ac yn ateb cwestiynau. Mae hwn yn
digwydd yn nhymor yr Hydref.

Trwy gydol y flwyddyn ym Mlwyddyn 6 bydd y plant yn dod i adnabod athrawon
Rhydywaun gan eu bod nhwʼn dod i Santes Tudful ac yn addysgu gwersi. Maeʼr gwersi
yma yn ddifyr a hwylus ac yn gyfle gwych i adeiladu perthnasau.

Yn nhymor yr haf, bydd athrawon Blwyddyn 6 yn mynd aʼr plant i Rydywaun am ddau
ddiwrnod. Byddent yn cael y cyfle i gwrdd âʼu cyd ddisgyblion o ysgolion cynradd eraill ac
yn mwynhau amrywiaeth o wersi gyda nhw. Yn ystod y deuddydd yma byddent yn dod i
adnabod eu hathro neu athrawes gofrestru. Dymaʼr athro/athrawes bydd yn cofrestru nhw
pob bore ym Mlwyddyn 7.

Hawl i holi!

Dwywaith yn ystod Blwyddyn 6 mae prif swyddogion Rhydywaun, plant hŷn yr ysgol, yn
cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb - Hawl i holi. Mae clywed yn uniongyrchol gan ddisgyblion
Rhydywaun yn werthfawr iawn ac yn gyfle iʼr plant trafod bywyd Rhydywaun o bersbectif
plentyn.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ac i weld fideos amrywiol, ewch i dudalen Blwyddyn 6 ar
wefan Ysgol Rhydywaun.

Cyfathrebiad gyda Rhieni a'r Gymuned

Cred yr Ysgol yn gryf mewn coleddu cysylltiadau agos gyda rhieni yn ogystal âʼr gymuned i
hyrwyddo datblygiad y disgyblion ac i rannu gwybodaeth. Cysylltwn â rhieni mewn nifer o
fyrdd yn ystod y flwyddyn e.e :-

• llythyron rheolaidd yn hysbysu rhieni
• negeseuon testun
• nosweithiau agored i drafod cynnydd disgyblion
• gwaith cartref neu dasgau cartref/ysgol
• taflen misol yn rhannu newyddion gydaʼn rhieni
• cyfathrebiad trwy Seesaw + Dojo
• e-byst gydag athrawon
• negeseuon trwy Class Charts
• adroddiadau ysgrifenedig ar gynnydd y plentyn
• cyngherddau Nadolig
• ffeiriau Ysgol
• prosbectws
• safle we yr ysgol- www.santestudful.merthyr.sch.uk
• llawlyfr y Feithrin
• Trydar @santestudful
• tudalen Facebook Preifat yr Ysgol- Ysgol Santes Tudful Parents and Friends.

Cefnogir yr Ysgol gan nifer o asiantaethau yn ogystal – Heddlu De Cymru, Y Gwasanaeth
Tân, Y Gwasanaeth Iechyd, Y Gwasanaeth Deintyddol, a.y.y.b.

Cefnogaeth Rhieni/Gwarcheidwaid

Mae plant yn dysgu orau pan fydd yr oedolion pwysig yn eu bywydau - rhieni, athrawon, ac
aelodau eraill o'r teulu a'r gymuned - yn gweithio gyda'i gilydd i'w hannog a'u cefnogi. Ni all
ysgolion yn unig fynd i'r afael â holl anghenion datblygiadol plentyn: Mae cyfranogiad
rhieni a chefnogaeth y gymuned yn hanfodol.
Gobeithiwn fod rhieni yn cefnogi systemau disgyblaeth yr ysgol, ein rheolau ac yn sicrhau
bod negeseuon tebyg yn cael eu rhannu yn y cartref. Ein cyd fwriad yw magu plant cyfrifol,
iach, hapus a moesol. Maeʼn holl bwysig bod rhieni a gwarcheidwaid yn helpu eu plant i
ymarfer eu darllen a chefnogi nhw i gwblhau tasgau gwaith cartref. Disgwylir i rieni gysylltu
âʼr ysgol gyda gwybodaeth berthnasol i addysg a llesiant eu plentyn/plant. Rhaid bod rhieni
yn darllen pob modd o gyfathrebiad gan yr ysgol a hefyd yn mynychu pob cyfarfod a
noswaith rieni.

Cytundeb Cartref ac Ysgol

Gweithio gyda'r Gymuned

Canu yn y Gymuned

Mae côr yr ysgol wedi cael ei wahodd i nifer o achlysuron yn
y gymuned. Mae medru rhannuʼr Iaith Gymraeg trwy ganu
caneuon yn fraint iddynt. Yn ddiweddar, maen nhw wedi canu
yng ngholeg Merthyr iʼr Maer, yng nghartref yr henoed Tŷ
Cwm a Theatr Soar. Mae eu cynulleidfaoedd wrth eu bodd yn
clywed y Gymraeg yn eu cymuned.

Diogelwch y Ffordd

Maeʼr ysgol yn cydweithio gydaʼr gymuned trwy rannu negeseuon
diogelwch y ffordd gydaʼr gymuned. Mae ein ʻBydis Parcioʼ wedi bod yn
llwyddiannus iawn eleni ac o ganlyn maeʼr ysgol yn fwy diogel. Rydym yn cyfathrebu gydaʼr
Awdurdod Lleol aʼr Heddlu er mwyn sicrhau eu cefnogaeth hefyd.

Llywodraethwyr

Mae llywodraethwyr yn gweithio fel tîm. Maen nhw'n gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn
darparu addysg o ansawdd da i'r holl ddisgyblion. Mae llywodraethwyr yn cefnogi ac yn
herio penaethiaid trwy gasglu barn, gofyn cwestiynau a thrafod beth sydd orau i'r ysgol. Mae
Llywodraethwyr Ysgol Santes Tudful yn cwrdd yn rheolaidd i drafod materion a chynlluniauʼr
ysgol i sicrhauʼr gorau iʼn disgyblion.

Seren Santes

Mae Llysgenhadon yr ysgol yn ysgrifennu cylchlythyr misol sydd yn rhannuʼr Gymraeg gydaʼr
gymuned. Rydym yn rhannu hwn ar safle we'r ysgol ac ar blatfform gwaith digidol yr ysgol.

Cwdyn Cymraeg

Mae'r disgyblion sydd yn ennill y wobr Cymro neu Gymraes yn yr ysgol yn mynd â'r Cwdyn
Cymraeg adref i rannu gyda'r teulu. O fewn y cwdyn mae gemau iaith, cerdiau fflach a
gweithgareddau i helpu addysgu Cymraeg i'r teulu.

Gwaith Elusennol

Fel ysgol rydym yn cefnogi nifer helaeth o elusennau, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae
cefnogi elusennau fel ysgol gyfan yn hyrwyddo ymdeimlad o ddinasyddiaeth ac ymdeimlad o

gyfrifoldeb cymdeithasol yn ein disgyblion. Yn flynyddol maeʼr ysgol yn casglu
tuag at Blant Mewn Angen, Diwrnod Trwynau Coch, Banc Bwyd
Merthyr, Cancer Research a Macmillan Cancer Support.

Yn achlysurol, rydym hefyd yn codi ymwybyddiaeth ac yn
casglu tuag elusennau sydd yn berthnasol i aelodau ein
cymuned ysgol.

Gweithio mewn Partneriaeth

Gwahoddir busnesau lleol i Ffair Nadolig a Ffair Haf yr
ysgol. Mae eu nwyddau yn cael eu gwerthu ac maeʼr
achlysur yn rhoiʼr cyfle iʼr busnesau datblygu eitemau
Cymreig.

Rydyn hefyd yn manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio busnes
lleol i helpu cynnal, cadw a datblyguʼr ysgol.

Gwasanaeth yr Heddlu
Mae swyddogion yr Heddlu yn hyfforddi aelodau Blwyddyn 5 i fod yn rhan o Heddlu bach
y gymuned.
Mae'r cynllun Heddlu Bach yn gyfle gwirfoddoli rhyngweithiol ar gyfer plant 9-11 oed, sy'n
dilyn dull 3 cham, Addysg, Cymuned a Gwobrwyo. Yr amcan yw cyflwyno'r plant i brofiad
cadarnhaol o blismona a chael nhw i gymryd rhan yn y gymuned leol.
Mae PCSOs yn darparu addysg ar flaenoriaethauʼr heddlu sydd wedyn yn cael ei raeadru i
lawr i weddill yr ysgol gan yr Heddlu Bach. Maeʼr plant yn cymryd rhan mewn
gweithgareddau cymunedol i wella hyder a balchder y gymuned fel codi sbwriel, diogelwch
ar y ffyrdd a chyfleoedd gyda chenedlaethau gwahanol.
Maeʼr ysgol hefyd yn cydweithioʼn agos gydaʼn Heddwas Cymunedol. Mae eʼn aelod
gweledol oʼr ysgol sydd yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iʼn disgyblion.
Swyddi
Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed ar
Gredyd Cynhwysol sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir. Mae'n gronfa gwerth £ 2
biliwn yn canolbwyntio ar greu cannoedd o filoedd o leoliadau gwaith 6 mis o ansawdd
uchel i bobl ifanc.
Mae Ysgol Santes Tudful fel rhan o fenter Merthyr gyfan yn gweithio gyda Chanolfan
Gyflogaeth Merthyr er mwyn creu cyfleoedd gwaith yn yr ysgol. Mae hyn yn golygu y
byddwn yn gallu darparu profiad gwaith i berson ifanc fel cynorthwyydd dysgu yn yr ysgol,
i weithio ochr yn ochr â'n staff profiadol.
Coleg Merthyr
Maeʼr Ysgol yn cydweithioʼn agos gyda Swyddog y Gymraeg Coleg Merthyr. Mae
myfyrwyr y coleg yn dod iʼr ysgol i gydweithio ac addysgu disgyblion. Mae cynnwys y
sesiynau yn amrywio o gelf a chrefft i chwaraeon ac mae pawb sydd ynghlwm aʼr fenter yn
mwynhau ac yn datblygu sgiliau gwerthfawr.
Maeʼr Ysgol hefyd yn cydweithio gydag Adran Gwasanaeth Awyr Agored a Chyhoeddus y
Cyngor lle mae ein disgyblion wedi cael y profiad o weithgareddau anturus fel dringo wal a
gwersylla.
Tŷ Cwm
Maeʼr cyfleuster byw a chymorth,Ty Cwm yn agos iawn iʼr ysgol ac rydym yn falch ein bod
ni wedi datblygu perthynas agos gydaʼr cartref. Maeʼr côr yn mwynhau perfformio iʼr
preswylwyr ac yn ogystal â hwn mae grwpiau o blant wedi ymweld â nhw i addysgu sgiliau
TGCh ac i chwarae gemau bwrdd. Mae ein disgyblion yn cyflawniʼr dyletswyddau yma
gydag aeddfedrwydd a pharch ac maeʼr ddwy genhedlaeth yn elwaʼn fawr o ryngweithio
gydaʼi gilydd.

Cymdeithas Rhieni a Ffrindiau

Bydd pwyllgor o rieni ac athrawon yn cwrdd yn aml yn ystod y flwyddyn. Mae croeso i
unrhyw un â diddordeb fynychu y cyfarfodydd yma. Hysbysir rhieni trwy e-bost neu lythyr
ynghylch y cyfarfodydd. Trefnir ystod eang o weithgareddau i hybu bywyd cymdeithasol yr
Ysgol aʼi theuluoedd yn ogystal â chodi elw i brynu offer iʼr Ysgol. Hefyd, dyma gyfle i rieni
newydd ddod i adnabod rhieni eraill yr Ysgol.

Rydym yn grŵp bach a chyfeillgar o rieni a staff addysgu sy'n trefnu nifer o ddigwyddiadau
cymdeithasol yn ystod y flwyddyn er mwyn codi arian i'r hysgol. Defnyddir yr arian a godir i
gefnogiʼr plant
Rydym yn angerddol am ein hysgol ac yn helpu'r plant i fod y gorau y gallant fod. Dros y
blynyddoedd rydym wedi codi arian i helpu'r ysgol mewn sawl ffordd.
Rydyn ni bob amser yn chwilio am syniadau a chyfleoedd codi arian newydd, ond rydyn ni fel
arfer yn codi arian trwy ddigwyddiadau a mentrau hwyliog:

Nosweithiau Sinema
Disgos Ysgol
Raffl Nadolig
Raffl Pasg
Ffair Haf
Ffair Nadolig
Taith Gerdded Welis
Darllen Noddedig

Presenoldeb

Er mwyn gwella safonau a chyrhaeddiad addysgol, mae presenoldeb mewn ysgolion yng
Nghymru yn flaenoriaeth lleol a chenedlaethol . Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed
presenoldeb sydd o leiaf 95% i bob disgybl. Credwn fod presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol
yn hanfodol os yw plant am gyrraedd eu potensial ac rydym yn gweithioʼn galed iawn yn
cefnogi teuluoedd i sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn cyflawniʼr targed hwn.

Mae gwisg ysgol yn cyfrannu at adeiladu ymdeimlad o falchder, Ysgol

Gwisgcymuned a pherthyn ymhlith myfyrwyr, staff a rhieni yn ogystal â'r

gymuned leol. Rydym yn gweld bod myfyrwyr yn falch o gynrychioli
Ysgol Santes Tudful yn gyhoeddus trwy wisgo ein gwisg ysgol. Credwn
fod gwisgo'n briodol yn cyfrannu at hunanddisgyblaeth a
chanolbwyntiad gwell. Mae gwisgo gwisg ysgol hefyd yn helpu i roi
disgyblion mewn meddylfryd ʻamgylchedd gwaithʼ ac yn eu helpu i
wahanu eu bywyd cartref ac ysgol. Mae pob plentyn hefyd yn
gyfartal wrth leihau'r pwysau i wisgo'r brandiau ffasiynol diweddaraf.

Gwisg Ysgol Santes Tudful:-

• Pâr o esgidiau du neu dreinyrs plaen du.

• Sandalau caeedig yn unig.

• Crys polo gyda logoʼr ysgol neu grys polo plaen gwyn/coch, blows
wen, crys gwyn (tei yn ddewisol)

• Siwmper goch (logo dewisol) cardigan / hoodie .

• Trowsus du neu lwyd tywyll, sgert neu siorts wedi teilwra.

• Dim joggers.

• Dim leggings ( Dim ond yn y Feithrin a Derbyn neu ddiwrnod
Addysg Gorfforol BL 1 a 2)

• Teits plaen (du/llwyd neu goch).

• Sanau gwyn neu lwyd.

• Ffrog 'gingham' coch a gwyn iʼr haf neu wisg pinafore llwyd.

• Côt neu siaced sydd wrth ddŵr

Diogelwch Plant

Mae pob aelod o staff yr ysgol hon yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant syʼn ei
mynychu. Os ceir pryderon ynglŷn ag esgeulustra, gamdrin corfforol, emosiynol neu rywiol,
yna maeʼn ddyletswydd ar y staff, yn unol â Chanllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008,
i sôn am y mater wrth Gyd-gysylltydd Diogelu Plant yr Ysgol.

Gall Cyd-gysylltydd yr ysgol ymgynghori â chydweithwyr proffesiynol yn ogystal ag
asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y
trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i gyd-gysylltydd yr Ysgol gyfeirioʼr plentyn yn swyddogol
iʼr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y sir. Yr Adran
Gwasanaethau Cymdeithasol syʼn penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio.

Oblegid natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gydaʼr rhieni
cyn cyfeirioʼr plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol aʼr Heddlu syʼn gyfrifol am ymchwilio i
gyhuddiadau.

Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig : Mr Gwyndaf Jones

Dirprwy Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig : Mrs Rose-Jones

Llywodraethwr Diogelu ac Amddiffyn Plant : Mrs Brown

Iechyd a Diogelwch

Cyfrifoldeb y Pennaeth, Staff yr Ysgol, y Llywodraethwyr a Gofalwr yr ysgol yw hyn. Bydd yr
aelodau hyn yn cynnal archwiliad blynyddol ac asesiad risg oʼr ysgol a bydd y Gofalwr yn
tynnu sylwʼr Pennaeth at unrhyw waith cynnal a chadw angenrheidiol o ddydd i dydd. Mae
Polisi Iechyd a Diogelwch cynhwysfawr ar gyfer pob agwedd o weithgareddauʼr ysgol ar gael
iʼw ddarllen yn swyddfaʼr Ysgol. Mae gan yr ysgol bolisi E-ddiogelwch hefyd sydd yn sicrhau
diogelwch y disgyblion wrth iddynt ddefnyddio TGCh ar draws yr ysgol. Nid ywʼn bosibl i
unrhywun gael mynediad iʼr adeilad heb gael caniatad gan fod pob drws a chlwyd ar glo yn
ystod y dydd.

Salwch a Damweiniau

Os na fydd eich plentyn yn teimloʼn hwylus, gwnawn ein gorau glas i gysylltu â chi. Os bydd yn
dioddef yn wael yn sgil damwain, cysylltwn â chi cyn gynted ag syʼn bosibl ar ôl rhoi Cymorth
Cyntaf. Mewn argyfwng, bydd aelod o staff yn cysylltu â 999 cyn cysylltu â chi. Os bydd eich
plentyn yn taro pen, byddwn yn cysylltu â chi ar unwaith a gofyn i chi ddod iʼr ysgol iʼw
gasglu/chasglu.

Moddion

Os oes angen moddion ar eich plentyn, dylech siarad ag athro neu athrawes eich plentyn i
drafod hyn. Mae gan yr ysgol bolisi Gofal Iechyd sydd ar gael yn yr ysgol neu yn yr ardal
ʻRhieniʼ ar wefan yr ysgol. Maeʼr polisi yma yn amlinelluʼr camau a gweithdrefnau iʼw dilyn os
bydd angen i ddisgybl gymryd moddion.

Cwynion

Trafnidiaeth

Os bydd plentyn yn byw mwy na 2 filltir oddi wrth yr ysgol, darperir trafnidiaeth
iddo/iddi. Os bydd cwestiwn neu gŵyn ynghylch trafnidiaeth, dylai rhieni gysylltu ag Adran
Drafnidiaeth yr Awdurdod ar 01685 725000. Disgwylir yr ymddygiad gorau posibl ar bob
achlysur gan bob disgybl syʼn teithio ar fws iʼr ysgol.

Ymweld â'r Ysgol

Croesawn ymweliadau gan rieni âʼr Ysgol i drafod unrhyw bryderon ynghylch eu plentyn/
plant neu i holi neu gwyno am fater arall. Byddaiʼn ddoeth i gysylltu âʼr Ysgol dros y ffôn er
mwyn gwneud apwyntiad gyda'r person priodol. Am resymau diogelwch, gofynnir i bawb
syʼn ymweld âʼr ysgol fynd i Brif Fynedfa yr Ysgol.


Click to View FlipBook Version